Eich cam cyntaf ar gyfer canllawiau ariannu
Cyllid Myfyrwyr Cymru yw prif ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Mae’n darparu arweiniad ar gefnogaeth ariannol ar gyfer addysg bellach, cyrsiau israddedig ac astudiaethau ôl raddedig.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r cwrs rydych chi’n ei ddewis, gall cefnogaeth gynnwys benthyciadau ffïoedd dysgu, cymorth cynhaliaeth, grantiau neu gymorth gydag unrhyw gostau astudio ychwanegol.
Cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr addysg bellach
Os ydych chi’n parhau gyda’ch addysg wedi’r ysgol mae’n bosib y gallech fod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol. Mae dwy brif ffynhonnell cefnogaeth ar gyfer dysgwyr AB yng Nghymru yn cynnwys EMA a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Bwriad y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, y cyfeirir ato’n aml fel EMA, yw helpu myfyrwyr cymwys gyda chostau o ddydd i ddydd addysg barhaus.
Mae cymhwysedd yn dibynnu ar ffactorau megis eich oedran, y cwrs rydych chi’n ei astudio ac incwm eich cartref, felly mae’n bwysig gwirio’r meini prawf.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
Gall Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru fod ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio cwrs sydd wedi’i gymeradwyo yng Nghymru.
Gall y grant eich helpu gyda chostau astudio megis teithio, offer a deunyddiau dysgu er mwyn ei gwneud hi’n haws parhau gyda’ch addysg.
Gall y swm sydd ar gael a’r meini prawf cymhwysedd amrywio, felly sicrhewch eich bod yn gwirio canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn deall pa gymorth sydd gennych hawl iddo.
Cefnogaeth ariannol gan eich coleg neu brifysgol
Ochr yn ochr ag ariannu cenedlaethol, mae’n bosib y bydd colegau a phrifysgolion yn darparu eu cymorth ariannol eu hunain er mwyn helpu dysgwyr i reoli costau sy’n gysylltiedig gydag astudio. Mae gan bob sefydliad eu meini prawf eu hunain, felly mae’n werth gwirio beth sydd ar gael a sut i ymgeisio amdano.
Hyfforddiant a chyflogadwyedd lleol
Gall rhai dysgwyr hefyd fod yn gallu cael mynediad at gymorth drwy hyfforddiant lleol, cyflogaeth neu raglenni sgiliau.
Mae Porth Sgiliau Gogledd Cymru’n dwyn ynghyd gyfleoedd hyfforddiant lleol, rhaglenni cyflogadwyedd a darparwyr cymorth ar hyd a lled y rhanbarth.
Mae hyn ar wahân i gyllid myfyrwyr ac ni fydd yn cymryd lle ffi dysgu neu gymorth cynhaliaeth ond gallai fod yn ddefnyddiol os ydych yn dychwelyd at addysgu, yn chwilio am waith ochr yn ochr â’ch astudiaethau neu’n ystyried rhaglen hyfforddiant fyrrach neu brentisiaeth.
Cael y ffeithiau yn gyntaf
Gall trefniadau ariannu, meini prawf cymhwysedd a dyddiadau cau ceisiadau newid. Gwiriwch yr wybodaeth ddiweddaraf o wefan swyddogol Cyllid Myfyrwyr Cymru, Llywodraeth Cymru neu wefan y sefydliad cyn gwneud cais.
Gallwch hefyd gysylltu gyda’r tîm cefnogaeth myfyrwyr neu’r tîm cyllid yn y coleg neu’r brifysgol rydych chi’n eu hystyried gan y gallant eich helpu i ddeall pa gefnogaeth allai fod ar gael ac egluro sut i ymgeisio.